Sandfields, Neath Port Talbot
Circa £18,000 per annum pro rata
Permanent, Part Time working 20 hours per week on a 24/7 rota basis
Giving children and young people the foundations they need to thrive.
The role
Park House is a purpose built 3-bedroom bungalow in Sandfields providing residential short breaks for 7 - 18 year olds with physical and learning disabilities. We focus on providing our service users a fun and stimulating short break in a safe, friendly and homely environment.
As an Assistant Residential Worker, it will be your responsibility to support the service, ensuring positive outcomes are achieved.
You will make a difference by:
- Providing personal care and maintaining hygiene.
- Administering medication.
- Completing general household chores.
- Meal prepping -staff will be expected to cook from the menu.
- Promoting independence.
- Encouraging active participation during activities.
- Offering families support and advice.
- Maintaining safeguarding practices within the service.
You will need:
- A positive attitude is a MUST.
- Previous experience working with Children and Young People is also Essential.
- Level 3 NVQ in Children and Young People or the willingness to complete the qualification within 2 years of starting the role.
- Excellent communication skills.
- Strong IT skills.
- Have sound understanding of different needs for both Children and Families.
- A good understanding and knowledge of Safeguarding will be preferred.
- A flexible approach to working hours as there are Waking Night shifts on the rota.
- Registration or willingness to register with Social Care Wales.
The way we work
We work to make sure every child and young person has the love, support and opportunity they need to reach their potential. If you share the same vision, we want you to join our team.
Rewards
We want our employees to feel valued and rewarded for the vital work they do. When you work with us, we'll recognise your efforts with generous annual leave, a comprehensive employer-matched pension scheme and a range of deals and discounts on our dedicated benefits portal.
For safe and happy childhoods
At Action for Children, we protect and support children and young people, providing practical and emotional care and support, ensuring their voices are heard, and campaigning to bring lasting improvements to their lives. Last year, we helped more than 387,000 children and families across the UK.
We are committed to safer recruitment practices to protect our service users; therefore, all applicants are expected to have an understanding of and commitment to safeguarding best-practice.
Traethmelyn, Castell-nedd Port Talbot
Oddeutu £18,000 y flwyddyn pro rata
Parhaol, Rhan-amser 20 awr yr wythnos ar sail rota 24/7
Gosod y sylfeini i blant a phobl ifanc ffynnu.
Y rôl
Mae Park House yn byngalo 3 llofft pwrpasol yn Nhraethmelyn sy'n darparu seibiannau preswyl byr i unigolion rhwng 7 a 18 oed gydag anabledd corfforol neu anabledd dysgu. Rydym yn canolbwyntio ar ddarparu seibiannau byr hwyliog ac ysgogol mewn awyrgylch diogel, cyfeillgar a chartrefol.
Yn Weithiwr Preswyl Cynorthwyol, byddwch yn gyfrifol am gefnogi'r gwasanaeth gan sicrhau canlyniadau cadarnhaol.
Byddwch yn gwneud gwahaniaeth trwy:
- Darparu gofal personol a chynnal hylendid personol.
- Gweini meddyginiaethau.
- Cyflawni gwaith domestig cyffredinol.
- Paratoi prydau - bydd disgwyl i staff goginio yn ôl y fwydlen a osodir.
- Hyrwyddo annibyniaeth.
- Annog ymwneud rhagweithiol â gweithgareddau.
- Cynnig cyngor a chymorth i deuluoedd.
- Cynnal arferion Diogelu'r gwasanaeth.
Bydd angen arnoch:
- Mae RHAID bod ag agwedd gadarnhaol.
- Mae profiad blaenorol o weithio gyda Phlant a Phobl Ifanc yn Hanfodol hefyd.
- CGC Lefel 3 Plant a Phobl Ifanc neu barodrwydd i ennill y cymhwyster o fewn 2 flynedd o gael y swydd.
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol.
- Sgiliau TG cryf.
- Dealltwriaeth a gwybodaeth dda am anghenion gwahanol Plant a Theuluoedd.
- Bydd dealltwriaeth a gwybodaeth dda o Ddiogelu'n fanteisiol.
- Ymagwedd hyblyg tuag at oriau gwaith gan fod y rota'n cynnwys Sifftiau Nos Effro.
- Bod wedi cofrestru, neu'n barod i gofrestru, gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Sut yr ydym yn gweithio
Rydym yn gweithio i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn derbyn y cariad, cymorth a chyfle sydd eu hangen er mwyn iddo gyrraedd ei botensial. Os ydych yn rhannu'r un weledigaeth, rydym am i chi ymuno â'r tîm.
Y Gwobrwyon
Rydym am i'n staff deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi am y gwaith hanfodol a wnânt. Pan fyddwch yn gweithio gyda ni, byddwn yn cydnabod eich ymdrechion gyda gwyliau blynyddol hael, cynllun pensiwn cynhwysfawr lle mae'r cyflogwr yn cyfrannu'r un faint â chi, ac ystod o fargenion a disgowntiau trwy ein porth buddion.
Sicrhau plentyndod diogel a hapus
Mae Gweithredu dros Blant yn diogelu a chefnogi plant a phobl ifanc, gan ddarparu gofal emosiynol a chymorth, gan sicrhau gwrando arnynt, a chan ymgyrchu dros welliannau hir-dymor yn eu bywydau. Y llynedd, bu i ni helpu dros 387,000 o blant a theuluoedd ledled y Deyrnas Unedig.
Rydym wedi ymrwymo i ymarfer recriwtio diogelach i ddiogelu defnyddwyr ein gwasanaethau. Disgwylir, felly, y bydd pob ymgeisydd yn deall ac yn ymrwymo i arfer gorau o ran diogelu.
