Business Support Officer
Location: Cardiff
Job Type: Full Time - 35 hours per week
Salary: circa £19,100
How we work:
Action for Children does what's right, does what's needed and does what works for children in the UK. Every year, our team changes the lives of 370,000 children, young people and families.
As an Administrative Officer you'll be a key member of our Business Support team working at the Wales Head Office in Cardiff and will play a vital role in the above, providing high level support to the Wales Leadership Team who in turn offer support and guidance to over 70 services throughout Wales. You will report directly to the Business Support National Lead for Wales
Your role:
As a Business Support Officer you will be predominantly responsible for providing administrative support for various members of the Leadership team. This will be a varied role with some HR admin, however you will be working closely with the Finance Officer with finance tasks. You will be undertaking tasks such as raising invoices, compiling data for reports, minute taking, diary management, and dealing with internal and external stake holders, being responsible for your own tasks and leading on some of them. You will have the ability to present a variety of information in various formats to different stakeholders within a senior level. Experience of providing a professional and confidential service and flexibility within this type role is essential.
How you will make a difference?
- By providing a high quality range of administrative services across the departments
- By being effective, intuitive, flexible and able to work to deadlines.
- By having a willingness to learn with strong attention to detail and adhere to best practises
- By having excellent customer service skills and being a good communicator.
- By having a sensitive approach to the work that we undertake.
- By working as a team but have the ability to work on your own initiative is required
What you'll need:
- A minimum of 2 years' experience within a similar administrative role with excellent communication skills is essential.
- Advanced IT Skills and experience of use of various IT systems including MS Word, Outlook and Powerpoint.
- Strong Excel skills are essential for this role as you will be working closely with the Finance team.
- Good at prioritising and meeting deadlines with excellent organisation and planning skills.
- You will be a confident communicator, able to converse with senior professionals from a variety of backgrounds.
- You will be fully committed to working towards the best outcomes for children and young people.
- You will be proactive with a can do attitude
- Ability to handle sensitive data.
What are the rewards?
- Minimum 29 days holiday (pro rata)
- Flexible working, including maternity, paternity and adoption package
- Season ticket loans
- Company pension scheme
- Discounts at major high street retailers
Plus, there is lots more besides.
This is a fantastic opportunity to make a real difference to vulnerable children's lives and to build a fulfilling and meaningful career with a leading UK charity.
The closing date for all applications are 21st October and Interviews will be held on 29th October
Want to join our team and really make a difference? Don't hesitate and apply now!
For more information, please email Moni Ali on 07742 742249 quoting reference number 2687
Swyddog Cymorth Busnes
Lleoliad: Caerdydd
Math o swydd: Amser llawn - 35 awr yr wythnos
Cyflog - oddeutu £19,100
Sut rydym yn gweithio:
Mae Gweithredu dros Blant yn gwneud yr hyn sy'n iawn, yr hyn sydd ei angen, a'r hyn sy'n effeithiol i blant yn y Deyrnas Unedig. Bob blwyddyn mae'r tîm yn newid bywydau 370,000 o blant, pobl ifanc a'u teuluoedd.
Yn Swyddog Gweinyddol, byddwch yn aelod allweddol o'r tîm Cymorth Busnes ym Mhencadlys Cymru yng Nghaerdydd gan chwarae rôl hanfodol yn ein gwaith. Byddwch yn darparu cymorth ar lefel uchel i Dîm Arweinyddiaeth Cymru sydd, yn ei dro, yn cynnig cymorth a chyngor i dros 70 o wasanaethau ledled Cymru. Byddwch yn atebol yn uniongyrchol i Arweinydd Cymorth Busnes Cenedlaethol Cymru.
Eich rôl:
Prif gyfrifoldeb y Swyddog Cymorth Busnes fydd darparu cymorth gweinyddol i sawl aelod o'r Tîm Arweinyddiaeth. Mae hon yn rôl amrywiol gyda rhywfaint o waith gweinyddol yn ymwneud ag Adnoddau Dynol. Fodd bynnag, byddwch yn cydweithio'n agos â'r Swyddog Cyllid ar faterion cyllid. Byddwch yn ymwneud â thasgau megis paratoi anfonebau, coladu data ar gyfer adroddiadau, cymryd cofnodion, rheoli dyddiaduron, a delio â rhanddeiliaid mewnol ac allanol. Byddwch yn gyfrifol am eich tasgau'ch hunain, gan arwain ar rai ohonynt. Bydd gennych y gallu i gyflwyno amrywiaeth o wybodaeth mewn fformatau amrywiol i randdeiliaid gwahanol ar lefel uchel. Mae profiad o ddarparu gwasanaeth proffesiynol a chyfrinachol, ac o fod yn hyblyg, mewn swydd o'r fath hon yn hanfodol.
Sut byddwch yn gwneud gwahaniaeth?
- Trwy ddarparu ystod o wasanaethau gweinyddol i safon uchel ar draws yr adrannau
- Trwy weithio mewn modd effeithiol, greddfol, a hyblyg, gyda'r gallu i weithio i amserlen gaeth
- Trwy fod yn barod i ddysgu gan roi sylw i'r manylion a dilyn arfer da
- Trwy feddu ar sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol a sgiliau cyfathrebu da
- Trwy ymagwedd sensitif tuag at ein gwaith
- Trwy weithio'n rhan o dîm ond gyda'r gallu i weithio ar eich menter eich hun fel bo angen
Bydd gennych:
- Mae o leiaf dwy flynedd o brofiad mewn rôl weinyddol debyg gyda sgiliau cyfathrebu rhagorol yn hanfodol
- Sgiliau TG uwch a phrofiad o systemau TG amrywiol gan gynnwys MS Word, Outlook a PowerPoint
- Mae sgiliau Excel cryf yn hanfodol i'r swydd hon gan y byddwch yn cydweithio'n agos â'r tîm Cyllid.
- Sgiliau blaenoriaethu da, y gallu i weithio o fewn amserlen gaeth, a sgiliau trefnu a chynllunio rhagorol
- Byddwch yn gallu cyfathrebu'n hyderus, a thrafod â gweithwyr proffesiynol hŷn o gefndiroedd gwahanol
- Byddwch wedi ymrwymo'n gryf i geisio'r canlyniadau gorau i blant a phobl ifanc
- Byddwch yn rhagweithiol, gydag ymagwedd gadarnhaol
- Byddwch yn gallu trin data sensitif
Beth yw'r buddion?
- Lleiafswm o 29 diwrnod o wyliau (pro rata)
- Trefniadau gweithio hyblyg, gan gynnwys pecyn mamolaeth, tadolaeth a mabwysiadu
- Benthyciad i brynu tocyn tymor
- Cynllun pensiwn y cwmni
- Gostyngiadau mewn manwerthwyr y stryd fawr
Ac mae llawer mwy hefyd.
Mae hyn yn gyfle gwych i wneud gwahaniaeth mawr i fywydau plant agored i niwed ac i adeiladu gyrfa foddhaus ac ystyrlon gydag elusen flaenllaw yn y Deyrnas Unedig.
Y dyddiad cau yw 21 Hydref a chynhelir y cyfweliadau ar 29 Hydref.
Ydych chi am ymuno â'r tîm a gwneud gwahaniaeth go iawn? Peidiwch ag oedi - ymgeisiwch yn awr!
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â moni.ali@actionforchildren.org.uk neu ffoniwch 07742 742249 gan ddyfynnu cyfeirnod 2687
Guidant is acting as an Employment Agency in relation to this vacancy.
