Young Persons Worker

Location Wales
Job Type Contract
Salary Negotiable
Reference 4357_1605531753

West Glamorgan, Wales
Circa 17,200 per annum pro rata
FTC until March 2023 working 18.5 hours per week which can be negotiated at interview stage but must be worked within the hours of 9am to 4pm Monday to Friday

Giving children and young people the foundations they need to thrive.

The role

Skills+ is a psychosocial-skills building intervention for care experienced Young People aged between 16 and 24. We provide a therapeutic intervention with a Dialectical Behaviour Therapy approach and a CBT methodology to improve the emotional and social well-being of our service users.

The service is for young people who experience significant distress and relationship difficulties, showing low mood and depressive tendencies, struggling to maintain consistency and who may not be fulfilling their potential. We also focus on employability. Together, we are working to give young people the practical and life skills to enable them to transition into happy, healthy adults.

Are you a passionate and emphatic individual with a positive attitude, who is willing to go the extra mile to improve the transition period for Care Experienced Young people (CEYP)? If so, come join our team. We are currently recruiting for Young Persons Workers to work in our Skills+ services. This post will be working with Care Experienced Young People aged between 14 - 24 across West Glamorgan.

You will make a difference by:

- Delivering CBT group to promote independence.
- Using CBT tools to encourage engagement with CEYP and to also explore emotions and improve their health and wellbeing.
- Building and maintaining positive relationships and committing to providing a safe environment.
- Attending meetings with other key individuals involved in the care of a Service User and completing relevant paperwork.
- Co facilitating and even facilitating small groups of service users.
- Conducting 1:1 sessions with service users.

You will need:

- Positive and proactive approach.
- Excellent interpersonal skills.
- Ability to build and maintain excellent rapport with service users.
- Sound knowledge and understanding of Safeguarding.
- IT Literate.
- Driver's Licence and have access to own car.
- Awareness and empathy of the issues Young People may face in care.

Gorllewin Morgannwg, Cymru

Oddeutu £17,200 y flwyddyn pro rata

Cytundeb Cyfnod Penodedig tan fis Mawrth 2023, 18.5 awr yr wythnos. Gellir negodi'r union oriau adeg y cyfweliad, ond rhaid iddynt gael eu gweithio rhwng 9am a 4pm rhwng dydd Llun a dydd Gwener

Gosod y sylfeini i blant a phobl ifanc ffynnu.

Y rôl

Mae Sgiliau+ yn ymyriad sy'n adeiladu sgiliau seicogymdeithasol pobl ifanc â phrofiad o ofal rhwng 16 a 24 oed. Rydym yn darparu ymyriad therapiwtig sy'n defnyddio ymagwedd Therapi Ymddygiad Dilechdidol a methodoleg Therapi Ymddygiad Gwybyddol i wella llesiant emosiynol a chymdeithasol y rhai sy'n defnyddio'r gwasanaeth.

Dyma wasanaeth ar gyfer pobl ifanc sy'n dioddef trallod sylweddol ac anawsterau gyda pherthnasoedd ac sy'n cael anhawster cynnal cysondeb, sy'n dangos tueddiad tuag at hwyliau isel neu iselder, ac a fydd, yn ôl pob tebyg, yn methu â chyrraedd eu potensial. Rydym yn canolbwyntio ar gyflogadwyedd hefyd. Gyda'n gilydd, rydym yn gweithio i arfogi pobl ifanc â sgiliau ymarferol a sgiliau byw fel y gallant ddod yn oedolion hapus ac iach.

Ydych chi'n unigolyn brwd ac angerddol gydag agwedd gadarnhaol sy'n fodlon rhoi o'ch gorau i wella cyfnod pontio Pobl Ifanc â Phrofiad o Ofal? Os felly, dewch i ymuno â'r tîm. Rydym yn chwilio am Weithwyr Pobl Ifanc i weithio yn y gwasanaeth Sgiliau+. Byddwch yn gweithio gyda Phobl Ifanc â Phrofiad o Ofal rhwng 14 a 24 oed ledled Gorllewin Morgannwg.

Byddwch yn gwneud gwahaniaeth trwy:

- Cyflwyno sesiynau Therapi Ymddygiad Gwybyddol mewn grwpiau i hyrwyddo annibyniaeth.
- Defnyddio offer Therapi Ymddygiad Gwybyddol i hyrwyddo ymwneud Pobl Ifanc â Phrofiad o Ofal, ac hefyd i ystyried eu hemosiynau a gwella eu hiechyd a llesiant.
- Adeiladu a chynnal perthnasoedd cadarnhaol ac ymrwymo i sicrhau awyrgylch diogel.
- Mynychu cyfarfodydd gydag unigolion allweddol eraill sy'n ymwneud â gofal yr unigolyn a chwblhau'r gwaith papur perthnasol.
- Cyd-hwyluso, neu hyd yn oed hwyluso, grwpiau bach o ddefnyddwyr y gwasanaeth.
- Cynnal sesiynau unigol â defnyddwyr y gwasanaeth.

Bydd angen arnoch chi:

- Ymagwedd gadarnhaol a rhagweithiol.
- Sgiliau rhyngbersonol rhagorol.
- Y gallu i adeiladu a chynnal perthynas ragorol â defnyddwyr y gwasanaeth.
- Gwybodaeth a dealltwriaeth drylwyr o Ddiogelu.
- Sgiliau TG effeithiol.
- Trwydded yrru a cherbyd sydd ar gael i chi ei ddefnyddio.
- Ymwybyddiaeth o'r problemau a wynebir gan Bobl Ifanc mewn gofal, ac empathi â nhw.