A career that's life-changing
Family Support Practitioner
Location: Gwent wide
Hours: Full time - FTC 18 months
Salary: £23,500 pro rota
Do you have a strong background in delivering services for children and young people's emotional and mental health? Action for Children are proud to announce that with effect from 1st June 2019, we will be delivering a targeted early intervention service for children and young people aged 3-16 and their families across the Gwent foot print.
The service will work with children and young people who need specialist support but who do not meet the thresholds for more specialist services. These children and young people are likely to present with moderate mental health difficulties (i.e. Anxiety, Conduct disorders) and require support to help them deal with issues such as bereavement, parental separation, self-esteem, bullying, transitions, sexuality, and behaviour at home/school. The collaborative model is designed to increase resilience and reduce the development of more entrenched mental health issues.
We will be running three interventions hubs across Gwent and the purpose of the service will be to deliver high quality one to one/family support based on psychological formulations unique to every child, with an emphasis on building resilience in children and young people, supporting good attachment and establishing evidence-based outcomes.
We are looking for Family Support Practitioners, who will work with a range of professionals to ensure the children and young people you support develop to their full potential. You will work with a clinical psychologist to assess children and young people where emerging mental health issues have been identified and following this you will deliver a time limited intervention to the child/family, agreed with the psychologist. You will liaise closely with your colleagues, and our partners to ensure compliance and excellence. We will actively support you in your role and provide you with specialist training, development and supervision. You will have a base at our Caerphilly FIT service but will be expected to travel to meet children and young people in schools and other venues accessible for them.
How Action for Children works
Action for Children does what's right, does what's needed and does what works for children across the UK. Every year, our team changes the lives of over 300,000 children, young people and their families - but for every child who needs help to get help, there's plenty more to do. That's where you come in.
What will you need?
- Experience of working with children, young people and their families providing 1-1 and family work in the community.
- Ideally you will have experience of delivering targeted early interventions to children and young people.
- Proven record of working collaboratively with schools, social services and health partners and responding to safeguarding concerns.
- An eagerness to learn and develop skills and a willingness to reflect on performance as well as experience of monitoring and evaluation of your work.
- You will be committed to Action for Children's defining statement, "keeping the child at the centre," and promoting our participation standards in your work as well as inclusion and promoting diversity in line with our values.
How will we reward you?
When you join Action for Children, you will be joining a collaborative, diverse and supportive team of like-minded-individuals, every one of them as passionate as you are. We want all of our employee's to feel valued and well rewarded for the vital work they do.
When you work with us, we'll recognise your efforts:
- By paying you a competitive salary and a generous paid holiday allowance- minimum 29 days (pro-rata) plus public/bank holidays with the opportunity to buy/sell up to 5 days leave
- By supporting your work/life balance with a flexible working week. To be discussed at interview
- By supporting you and welcoming new additions to your family - flexible maternity, paternity and adoption packages
- By giving you a pension - we have a contribution scheme that matches a maximum of 7% employee and 7% employer contributions which includes a death in service benefit.
- By providing excellent learning and development opportunities and all the support you need to thrive.
- By giving you access to discounts at hundreds of retailers
This is a fantastic opportunity to make a real difference to vulnerable children's lives and to build a fulfilling and meaningful long term career with a leading UK children's charity.
Action for Children is committed to safer recruitment practices, designed to protect the welfare of the children and young people using our services.
Apply Now
For more information on this opportunity please contact Moni on 07741 742249
Gyrfa sy'n newid bywydau
Ymarferwr Cymorth Teuluol
Lleoliad: Gwent o led
Oriau: Llawn amser - FTC 18 mis
Cyflog: £23,500 pro rata
Oes gyda chi gefndir cryf o ddarparu gwasanaethau i ddiwallu anghenion iechyd emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc? Mae Gweithredu dros Blant yn falch o gyhoeddi y byddwn ni, o 1 Mehefin 2019, yn darparu gwasanaeth ymyriad cynnar wedi'i dargedu ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 3 a 16 oed a'u teuluoedd ar draws Gwent.
Bydd y gwasanaeth yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd ag angen cymorth arbenigol ond nad ydynt yn cyrraedd y trothwy ar gyfer gwasanaethau mwy arbenigol. Mae'n debyg bod y plant a phobl ifanc hyn yn dangos anawsterau iechyd meddwl canolig (hynny yw Gorbryder, Anhwylderau Ymddygiad) ac mae angen cymorth arnynt i ymdopi â materion megis profedigaeth, eu rhieni'n gwahanu, hunan-barch, bwlio, pontio, rhywioldeb ac ymddygiad yn y cartref neu'r ysgol. Dyluniwyd y model cydweithredol i adeiladu gwydnwch a lleihau datblygiad problemau iechyd meddwl mwy parhaol.
Byddwn yn cynnal tair canolfan ymyrryd ar draws Gwent, a diben y gwasanaeth fydd darparu cymorth o safon uchel ar sail unigol neu gyda'r teulu yn seiliedig ar ymagwedd seicolegol sy'n unigryw i'r plentyn unigol, gyda phwyslais ar adeiladu gwydnwch y plant a phobl ifanc, hwyluso ymlyniad da a chyflawni canlyniadau a seilir ar dystiolaeth.
Rydym yn chwilio am weithwyr Cymorth Teuluol fydd yn gweithio gydag ystod o weithwyr proffesiynol i sicrhau bod y plant a phobl ifanc sy'n derbyn y cymorth yn datblygu i'w llawn botensial. Byddwch yn gweithio gyda Seicolegydd Clinigol i asesu plant a phobl ifanc lle nodwyd bod problemau iechyd meddwl yn dod i'r amlwg, ac yn sgil hynny byddwch yn darparu ymyriad o hyd cyfyngedig i'r plentyn/ teulu, yn unol â chytundeb gyda'r Seicolegydd. Byddwch yn cydlynu'n agos â'ch cydweithwyr a'n partneriaid i sicrhau cydymffurfio a rhagoriaeth. Byddwn yn rhoi cymorth cadarnhaol i chi yn y swydd ac yn darparu hyfforddiant arbenigol, datblygiad personol a goruchwyliaeth. Bydd eich man gwaith yn swyddfa gwasanaeth Tîm Ymyriad Teuluol Caerffili.
Sut mae Gweithredu dros Blant yn gweithio
Mae Gweithredu dros Blant yn gwneud yr hyn sy'n iawn, yr hyn sydd ei angen, a'r hyn sy'n effeithiol i blant ar draws y Deyrnas Unedig. Bob blwyddyn, mae'r tîm yn newid bywydau dros 300,000 o blant, pobl ifanc a'u teuluoedd - ond er mwyn i bob plentyn y mae angen cymorth arno gael y cymorth hwnnw, mae llawer mwy i'w wneud. Dyna'ch rôl chi.
Beth fydd ei angen arnoch?
- Profiad o weithio gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd gan ddarparu cymorth unigol a chymorth i'r teulu yn y gymuned.
- Yn ddelfrydol, bydd gyda chi brofiad o ddarparu ymyriadau wedi'u targedu i blant a phobl ifanc.
- Tystiolaeth o gydweithio ag ysgolion, gwasanaethau cymdeithasol a phartneriaid yn y gwasanaeth iechyd, ac o ymateb i bryderon Diogelu.
- Awydd i ddysgu a datblygu sgiliau a pharodrwydd i fyfyrio ar eich perfformiad yn ogystal â phrofiad o fonitro a gwerthuso'ch gwaith.
- Byddwch wedi ymrwymo i ddatganiad allweddol Gweithredu dros Blant, "cadw'r ffocws ar y plentyn", ac i hyrwyddo ein safonau cyfranogi yn eich gwaith yn ogystal â hyrwyddo cynhwysiant ac amrywiaeth yn unol â'n gwerthoedd.
Y buddion
Wrth ymuno â Gweithredu dros Blant, byddwch yn ymuno â thîm cydweithredol, amrywiol a chefnogol o unigolion o'r un meddylfryd, pob un ohonynt mor angerddol â chwithau. Rydym am i bob un o'n staff deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u gwobrwyo'n dda am y gwaith hanfodol maent yn ei wneud.
Pan fyddwch yn gweithio gyda ni, byddwn yn cydnabod eich ymdrechion:
- Trwy dalu cyflog cystadleuol a lwfans gwyliau â thâl hael - lleiafswm o 29 diwrnod (pro rata) yn ogystal â gwyliau banc/ cyhoeddus, gyda chyfle i brynu neu werthu hyd at 5 wythnos o wyliau.
- Trwy gefnogi cytbwysedd bywyd/ gwaith gydag wythnos weithio hyblyg. I'w drafod yn y cyfweliad.
- Trwy eich cefnogi a chroesawu aelodau newydd i'ch teulu - trefniadau hyblyg ar gyfer mamolaeth, tadolaeth a mabwysiadu.
- Trwy roi pensiwn i chi - mae gyda ni gynllun cyfrannu gydag uchafswm o 7% gan y cyflogwr a 7% gan yr aelod o staff, sy'n cynnwys taliad os byddwch yn marw yn ystod eich cyfnod o wasanaeth.
- Trwy ddarparu cyfleoedd rhagorol ar gyfer dysgu a datblygu personol a'r holl gymorth sydd angen arnoch i ffynnu.
- Trwy roi cyfle i chi gael disgownt mewn cannoedd o fanwerthwyr.
Mae hyn yn gyfle gwych i wneud gwahaniaeth mawr i fywydau plant agored i niwed ac i adeiladu gyrfa hirdymor, foddhaus ac ystyrlon gydag elusen plant blaenllaw yn y Deyrnas Unedig.
Mae Gweithredu dros Blant wedi ymrwymo i arfer recriwtio diogelach a ddyluniwyd i ddiogelu lles y plant a phobl ifanc sy'n defnyddio ein gwasanaethau.
Ymgeisio yn awr
.
Am ragor o wybodaeth am y swydd hon, cysylltwch â Moni ar 07741 742249
Guidant is acting as an Employment Agency in relation to this vacancy.
