Children Services Practitioner

Location Bridgend
Job Type Permanent
Salary Negotiable
Reference 4131_1601279393

Bridgend, Wales
Circa £21,100 per annum
Permanent, Full Time working Monday to Friday 8:30am to 4:30am during term time only

Giving children and young people the foundations they need to thrive.

The role
Action for Children does what's right, does what's needed and does what works for children in the UK. Every year, our team changes the lives of 301,000 children, young people and families.

In partnership with Bridgend County Borough Council we provide high quality childcare provision for children aged 2 to 3 years in our Flying Start Playgroups in Bridgend.

The successful candidate will work as part of our team to provide a safe, stimulating play environment, support and facilitate children's development and where necessary, contribute to the safeguarding of children. We pride ourselves on being child led and are committed to ensuring that all the children we work with have a flying start in life.

You'll predominantly be based within one childcare setting, however there is a need for the flexibility to work across all our local settings as required by the needs of the service. The post is 37hrs per week, over 5 days, worked on a term time only basis.

You will make a difference by:

- Supporting team leader in day to day running of the service.
- Working as part of a team to create a rich and stimulating play environment that promotes children's development and encourages them to explore and discover.
- Working as part of a multi-disciplinary team to assess children's development needs and implement appropriate support plans.
- Ensure Safeguarding polices and procedures are in place throughout the service.
- Build and maintain excellent rapport with parents and stakeholders to ensure high quality of services being delivered.

You will need:

- A Level 3 Diploma Childcare qualification is Essential.
- Experience of working in a regulated childcare setting.
- The ability to drive and access to a car is essential to this role.
- Experience in leading a team.
- Level 5 Advanced Practitioner qualification or the willingness to work towards it.

The way we work

We work to make sure every child and young person has the love, support and opportunity they need to reach their potential. If you share the same vision, we want you to join our team. Have a look at our behaviours and values to understand more about the way we work here.

Rewards

We want our employees to feel valued and rewarded for the vital work they do. When you work with us, we'll recognise your efforts with generous annual leave, a comprehensive employer-matched pension scheme and a range of deals and discounts on our dedicated benefits portal. Find out more about our exclusive Action for Children benefits here.


For safe and happy childhoods

At Action for Children, we protect and support children and young people, providing practical and emotional care and support, ensuring their voices are heard, and campaigning to bring lasting improvements to their lives. Last year, we helped more than 387,000 children and families across the UK.

Interviews to be held on 16th of October 2020.

We are committed to safer recruitment practices to protect our service users; therefore, all applicants are expected to have an understanding of and commitment to safeguarding best-practice.

Action for Children is passionate about promoting equality, valuing diversity and working inclusively. We welcome applications from all suitably qualified persons particularly people with Disabilities and Black, Asian and Minority Ethnic applicants, as these groups are currently under-represented in our workforce.

Pen-y-bont ar Ogwr, Cymru

Oddeutu £21,100 y flwyddyn

Parhaol, Amser Llawn, Dydd Llun tan Ddydd Gwener, 8:30 tan 4:30 yn ystod tymor yr ysgol yn unig

Gosod y sylfeini i blant a phobl ifanc ffynnu.

Y rôl

Mae Gweithredu dros Blant yn gwneud yr hyn sy'n iawn, yr hyn sydd ei angen, a'r hyn sy'n effeithiol i blant yn y Deyrnas Unedig. Bob blwyddyn mae'r tîm yn newid bywydau 301,000 o blant, pobl ifanc a'u teuluoedd.

Mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, rydym yn darparu gofal plant o safon i blant rhwng 2 a 3 oed yn ein grwpiau chwarae Dechrau'n Deg ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhan o dîm sy'n darparu awyrgylch chwarae diogel ac ysgogol, sy'n cefnogi a hwyluso datblygiad plant, ac sydd, lle bo angen, yn cyfrannu i ddiogelu plant. Rydym yn ymfalchïo bod ein gwaith yn cael ei arwain gan y plant, ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau dechrau da mewn bywyd i'r holl blant yr ydym yn gweithio â nhw.

Gan fwyaf, byddwch yn gweithio yn lleoliad ein gwasanaeth gofal plant. Fodd bynnag, bydd disgwyl i chi fod yn hyblyg i weithio mewn nifer o leoliadau eraill yn ôl anghenion y gwasanaeth. Mae'n swydd 37 awr yr wythnos, 5 diwrnod yr wythnos yn ystod tymor yr ysgol yn unig.

Byddwch yn gwneud gwahaniaeth trwy:

- Cefnogi arweinydd y tîm wrth redeg y gwasanaeth o ddydd i ddydd.

- Gweithio'n rhan o dîm i sicrhau awyrgylch chwarae coeth ac ysgogol sy'n hyrwyddo datblygiad y plant ac sy'n eu hannog i fforio ac i ddysgu.

- Gweithio'n rhan o dîm amlddisgyblaethol i asesu anghenion datblygu'r plant ac i roi cynlluniau cymorth addas ar waith.

- Sicrhau bod polisïau a gweithdrefnau Diogelu ar waith ym mhob agwedd o'r gwasanaeth.

- Adeiladu a chynnal perthynas dda â rhieni a rhanddeiliaid i sicrhau ansawdd y gwasanaeth.

Bydd angen arnoch:

- Mae Diploma Lefel 3 mewn Gofal Plant yn hanfodol.

- Profiad o weithio mewn lleoliad gofal plant a reoleiddir.

- Mae trwydded yrru a cherbyd y gallwch ei ddefnyddio yn hanfodol.

- Profiad o arwain tîm.

- Cymhwyster Lefel 5 Ymarferydd Uwch neu barodrwydd i weithio tuag ato.

Sut yr ydym yn gweithio

Rydym yn gweithio i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn derbyn y cariad, cymorth a chyfle sydd eu hangen er mwyn iddo gyrraedd ei botensial. Os ydych yn rhannu'r un weledigaeth, rydym am i chi ymuno â'r tîm. Cewch ddarllen rhagor yma am ein gwerthoedd a'n gweithredoedd i ddeall ein ffordd o weithio.

Y Gwobrwyon

Rydym am i'n staff deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi am y gwaith hanfodol a wnânt. Pan fyddwch yn gweithio gyda ni, byddwn yn cydnabod eich ymdrechion gyda gwyliau blynyddol hael, cynllun pensiwn cynhwysfawr lle mae'r cyflogwr yn cyfrannu'r un faint â chi, ac ystod o fargenion a disgowntiau trwy ein porth buddion. Cewch ragor o wybodaeth am fuddion Gweithredu dros Blant yma.

Sicrhau plentyndod diogel a hapus

Mae Gweithredu dros Blant yn diogelu a chefnogi plant a phobl ifanc, gan ddarparu gofal emosiynol a chymorth, gan sicrhau gwrando arnynt, a chan ymgyrchu dros welliannau hir-dymor yn eu bywydau. Y llynedd, bu i ni helpu dros 387,000 o blant a theuluoedd ledled y Deyrnas Unedig.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Fatima Matin drwy ffonio 07918773592.

Cynhelir y cyfweliadau ar 16 Hydref 2020.

Rydym wedi ymrwymo i ymarfer recriwtio diogelach i ddiogelu defnyddwyr ein gwasanaethau. Disgwylir, felly, y bydd pob ymgeisydd yn deall ac yn ymrwymo i arfer gorau o ran diogelu.

Mae Gweithredu dros Blant yn angerddol dros hyrwyddo ansawdd, gwerthfawrogi amrywiaeth a gweithio mewn modd cynhwysol. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb sydd â'r cymwysterau perthnasol, yn arbennig pobl ag anabledd a phobl o gefndir Du, Asiaidd, ac o Gefndiroedd Ethnig Lleiafrifol, gan fod y grwpiau hyn wedi'u tangynrychioli yn ein gweithlu ar hyn o bryd.