Young Persons Practitioner

Location Wrexham
Job Type Contract
Salary Negotiable
Reference 3926_1595842373
Duration 3 years

Wrexham, North Wales
Circa £20,300 per annum pro rata
Part Time working 18.5 hours flexibly throughout the week

Giving children and young people the foundations they need to thrive.

The role

Our residential services in North Wales provide care and accommodation for children/young people who have been referred to the project. They will have been presenting challenges to existing services due to having experienced early life trauma and other associated difficulties. The aim of the service is to help the young people develop greater emotional wellbeing, gain control of their actions, engage in appropriate relationships and to participate more fully in education, to participate in community activities, have fun and enhance their skills.

As a Transition Worker you make a vital difference to the lives of previously looked after young people who are in desperate need of guidance and care during a challenging time. Their support will be tailored to each young person.

You will make a difference by;

- Providing one to one practical, educational and emotional support to help build emotional resilience and reduce the risk of young people developing negative behaviours such as substance misuse or antisocial behaviour.
- Helping young people to secure safe and suitable accommodation that fits their needs and gives them a sense of security.
- Networking with local businesses to help secure apprenticeships and employment.
- Linking in with careers Wales and Benefit agency to understand benefit entitlement for care leavers and careers advice.
- Providing emotional support and helping build aspirations.
- Working with young people to identify suitable training, employment or education opportunities and providing the skills and confidence they need to be successful.
- Teaching basic living skills. You will help them live independently more successfully and access the support they are entitled to.

You will need:

- A Level 3 QCF in Health and Social Care or equivalent is essential.
- A Driving Licence and access to own car.
- Knowledge of the issues and barriers facing vulnerable young adults who may at times lead chaotic lives.
- Ability to speak Welsh is desirable.
- A knowledge of statutory ad voluntary agencies.
- Previous residential experience is essential for this role.

For more information, please contact Fatima Matin on 07918773592 or email

We are committed to safer recruitment practices to protect our service users; therefore, all applicants are expected to have an understanding of and commitment to safeguarding best-practice.

Wrecsam, Gogledd Cymru

Oddeutu £20,300 y flwyddyn pro rata

Rhan-amser, 18.5 awr i'w gweithio ar sail hyblyg trwy'r wythnos

Gosod y sylfeini i blant a phobl ifanc ffynnu.

Y rôl

Mae ein gwasanaethau preswyl yng ngogledd Cymru'n darparu gofal a llety i blant a phobl ifanc sydd wedi'u hatgyfeirio at y prosiect. Byddant wedi bod yn her i wasanaethau eraill o ganlyniad i'w profiad o drawma yn gynnar yn eu bywydau ac anawsterau cysylltiedig. Nod y gwasanaeth yw helpu'r bobl ifanc i wella eu lles emosiynol, rheoli eu gweithredoedd, sefydlu a chynnal perthnasoedd addas, ymgysylltu'n well ag addysg a gweithgarwch cymunedol, cael hwyl a gwella eu sgiliau.

Yn Weithiwr Pontio, byddwch yn gwneud gwahaniaeth allweddol i fywydau pobl ifanc sydd wedi derbyn gofal yn y gorffennol y mae angen dybryd cyfarwyddyd a gofal arnynt ar adeg heriol. Caiff y cymorth ei deilwra i weddu ag anghenion yr unigolyn.

Byddwch yn gwneud gwahaniaeth trwy:

- Darparu cymorth ymarferol, addysgol ac emosiynol ar sail unigol i helpu i adeiladu gwydnwch emosiynol a lleihau'r risg y bydd y person ifanc yn datblygu ymddygiad negyddol megis camddefnyddio sylweddau neu ymddygiad gwrthgymdeithasol.

- Helpu pobl ifanc i ddod o hyd i lety diogel ac addas sy'n diwallu eu hanghenion ac sy'n adeiladu eu teimlad o ddiogelwch.

- Rhwydweithio gyda busnesau lleol i helpu sicrhau prentisiaethau a chyflogaeth.

- Cydlynu â Gyrfa Cymru a'r Asiantaeth Budd-daliadau i ddeall hawliau'r rhai sy'n gadael gofal ac i gael cyngor ar yrfaoedd.

- Darparu cymorth emosiynol a helpu i godi dyheadau.

- Gweithio gyda phobl ifanc i nodi cyfleoedd hyfforddiant, cyflogaeth neu addysg addas, a'u harfogi â'r sgiliau i lwyddo.

- Dysgu sgiliau bywyd sylfaenol. Byddwch yn eu helpu i fod yn fwy llwyddiannus wrth fyw'n annibynnol ac i gael mynediad at y cymorth y mae ganddynt hawl iddo.

Bydd angen arnoch:

- Mae Fframwaith Cymwysterau a Chredydau Lefel Safon Uwch 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol neu gymhwyster cyfwerth yn hanfodol.

- Trwydded yrru a cherbyd sydd ar gael i chi ei ddefnyddio.

- Gwybodaeth am y problemau a'r rhwystrau sy'n wynebu oedolion ifanc agored i niwed sydd wedi cael bywyd anhrefnus ar adegau.

- Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol.

- Gwybodaeth am asiantaethau statudol a gwirfoddol.

- Mae profiad blaenorol o wasanaethau preswyl yn hanfodol.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Fatima Matin drwy ffonio 07918 773592 neu yn

Rydym wedi ymrwymo i ymarfer recriwtio diogelach i ddiogelu defnyddwyr ein gwasanaethau. Disgwylir, felly, y bydd pob ymgeisydd yn deall ac yn ymrwymo i arfer gorau o ran diogelu.